Placeholder text
Caniadau
0 - Default Title
Description
Yn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o'r "dadeni" a welwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Er bod ei farddoniaeth yn llai adnabyddus na'i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau, yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o'i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae'n cynnwys ei delynegion enwog fel Cwyn y Gwynt ynghyd â'i englynion a'i awdlau.
Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus a chynhyrchiol o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae'r rhain hefyd yn rhan bwysig o'r Caniadau, gan gynnwys telynegion Heinrich Heine a Phenillion Omar Khayyâm, enghraifft brin o gyfieithiad i'r Gymraeg o waith llenyddol o'r tu allan i Ewrop.
Product details
Binding:
Paperback
Number of Pages:
184
Release Date:
2025-12-01
Publication Date:
2025-12-01
Publisher:
Melin Bapur
Languages:
Original:
Welsh
ISBN10:
1917237715
ISBN13:
9781917237710
Weight:
299 g
Height:
127 cm
Width:
203 cm
Thickness:
12 cm
Currently sold out