Placeholder text
O Law i Law
0 - Default Title
Description
"Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma'r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F'ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai'r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau'r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed."
Wedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu t¿, drwy werthu eu heiddo 'o law i law' i'w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae'n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a'i fagwraeth, ei berthynas gyda'i rieni a'i ewythr, a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni.
Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu'r llyfr a'r nofelau a'i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i'w hawdur na phrofasai'r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw'r tawelaf a'r mwynaf o'i nofelau, a'r un sy'n dwyn y mwyaf o'i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.
Product details
Binding:
Paperback
Number of Pages:
226
Release Date:
2025-08-01
Publication Date:
2025-08-01
Publisher:
Melin Bapur
Languages:
Original:
Welsh
ISBN10:
1917237545
ISBN13:
9781917237543
Weight:
365 g
Height:
127 cm
Width:
203 cm
Thickness:
15 cm
Currently sold out