Placeholder text
Bronwen
0 - Default Title
Description
"Twt, twt, fachgen!" atebai ei dad, "Ychydig wyt ti yn adnabod dynion. A wyt ti yn tybied y gallent fyth wrthod abwyd mor ddengar ag wyf fi wedi daflu iddynt? Annibyniaeth gweithredol i'w gwlad - y seren fore ddisglair honno am yr hon y mae eu beirdd yn canu, a'u tywysogion yn breuddwydio, a dim ond un dyn rhyngddynt a'r mwynhad."
Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) oedd un o Gymry llengar mwyaf gweithgar ei oes. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau yn portreadu digwyddiadau a chyfnodau o hanes ei wlad ei hun mewn ymgais bwriadol i efelychu yn y cyd-destun Cymreig yr hyn yr oedd Walter Scott wedi'i wneud gyda hanes yr Alban yn ei nofelau hanes ef.
Bronwen, 'Chwedl Hanesyddol am Owain Glynd¿r', oedd nofel gyntaf Evans. Enillodd y fersiwn Saesneg wobr yn Eisteddfod Caerdydd 1878, ac ymddangosodd y fersiwn Cymraeg sydd yn y gyfrol hon, sef addasiad yr awdur ei hun, gyda rhai ychwanegiadau, mewn cyfnodolyn yn 1880. Dyma nofel anturus, ramantaidd ac uchelgeisiol, a dyma'r tro cyntaf i unrhyw fersiwn ohoni ymddangos ar ffurf llyfr.
Product details
Binding:
Paperback
Number of Pages:
318
Release Date:
2025-07-13
Publication Date:
2025-07-13
Publisher:
Melin Bapur
Languages:
Original:
Welsh
ISBN10:
1917237537
ISBN13:
9781917237536
GPSR Manufacturer Reference:
Weight:
507 g
Height:
127 cm
Width:
203 cm
Thickness:
21 cm
Currently sold out