{"product_id":"john-jones-morris-caniadau-9781917237710","title":"Caniadau","description":"\"Henaint ni ddaw ei hunan;-daw ag och Gydag ef, a chwynfan,Ac anhunedd maith weithian,A huno maith yn y man.\"\n\u003cbr\u003e\nYn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o'r \"dadeni\" a welwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.\n\u003cbr\u003e\nEr bod ei farddoniaeth yn llai adnabyddus na'i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau, yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o'i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae'n cynnwys ei delynegion enwog fel Cwyn y Gwynt ynghyd â'i englynion a'i awdlau. \n\u003cbr\u003e\nRoedd hefyd yn gyfieithydd medrus a chynhyrchiol o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae'r rhain hefyd yn rhan bwysig o'r Caniadau, gan gynnwys telynegion Heinrich Heine a Phenillion Omar Khayyâm, enghraifft brin o gyfieithiad i'r Gymraeg o waith llenyddol o'r tu allan i Ewrop.","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53817076547926,"sku":null,"price":0.0,"currency_code":"EUR","in_stock":false}],"url":"https:\/\/www.momoxbooks.com\/products\/john-jones-morris-caniadau-9781917237710","provider":"momoxbooks","version":"1.0","type":"link"}