{"product_id":"hughes-rowland-t-o-law-i-law-9781917237543","title":"O Law i Law","description":"(New edition of T. Rowland Hughes's classic Welsh language novel O Law i Law)\n\u003cbr\u003e\n\"Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma'r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F'ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai'r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau'r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed.\"\n\u003cbr\u003e\nWedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu t¿, drwy werthu eu heiddo 'o law i law' i'w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae'n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a'i fagwraeth, ei berthynas gyda'i rieni a'i ewythr, a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni.\n\u003cbr\u003e\nRoedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu'r llyfr a'r nofelau a'i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i'w hawdur na phrofasai'r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw'r tawelaf a'r mwynaf o'i nofelau, a'r un sy'n dwyn y mwyaf o'i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53622217212246,"sku":null,"price":0.0,"currency_code":"EUR","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0925\/5829\/5382\/files\/product_image_9781917237543_1.jpg?v=1781724446","url":"https:\/\/www.momoxbooks.com\/products\/hughes-rowland-t-o-law-i-law-9781917237543","provider":"momoxbooks","version":"1.0","type":"link"}