{"product_id":"grabo-jadwiga-cyswllt-9781917237444","title":"Cyswllt","description":"Cyfrol o farddoniaeth gyda darluniau gwreiddiol mewn lliw.Tarddodd Cyswllt o angen siarad am bethau sy'n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino â phwnc anabledd. Dyma lyfr sy'n bwriadu datgelu'r emosiynau a'r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gwëwyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a'r grym mewnol sy'n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os dyn ni'n dofi ofn arwahanrwydd.Mae Jadwiga Grabo¿ yn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol Cyswllt y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol ¿widnica 2023. Graddiodd mewn Almaeneg a'r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Sk¿odowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o'r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi'n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae'n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi'n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.Mae Marta Listewnik yn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznä. Mae wedi cyfieithu a chyhoeddi pedair nofel Gymraeg ym Mhwyleg ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i'r Gymraeg.","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53699708027222,"sku":null,"price":0.0,"currency_code":"EUR","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0925\/5829\/5382\/files\/product_image_9781917237444_1.jpg?v=1778864549","url":"https:\/\/www.momoxbooks.com\/products\/grabo-jadwiga-cyswllt-9781917237444","provider":"momoxbooks","version":"1.0","type":"link"}