{"product_id":"george-orwell-mil-naw-wyth-deg-pedwar-1984-in-welsh-meddal-paperback-9781917237635","title":"Mil Naw Wyth Deg Pedwar (1984 in Welsh) (Meddal \/ Paperback)","description":"MAE'R BRAWD MAWR YN EICH GWYLIO CHI...\n\u003cbr\u003e\nAr gael am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg, Mil Naw Wyth Deg Pedwar yw nofel arswydus George Orwell am ddyfodol tywyll dan lywodraeth dotalitaraidd.\n\u003cbr\u003e\nRoedd George Orwell, sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr, yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Nodweddir ei waith gan sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaethau o dotalitariaeth ei gyfnod sydd eto'n oesol, ac mae ei gampweithiau mwyaf adnabyddus, yn eu plith Animal Farm a Nineteen Eighty-Four, ymhlith y nofelau mwyaf poblogaidd erioed mewn unrhyw iaith.\n\u003cbr\u003e\nWedi'i chyhoeddi'n wreiddiol yn 1948, hwyrach mai Nineteen Eight-Four yw'r nofel ddistopaidd enwocaf erioed a bu'n gyfrifol am gyflwyno bathiadau newydd i'r iaith Saesneg fel Big Brother, Doublethink, Thought Police ac Orwellian.\n\u003cbr\u003e\nSylwer: Dyma'r fersiwn clawr papur yn y gyfres Clasuron Byd. Mae fersiwn Clawr Caled ar gael hefyd gyda deunydd ychwanegol.","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53798693044566,"sku":null,"price":0.0,"currency_code":"EUR","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0925\/5829\/5382\/files\/product_image_9781917237635_1.jpg?v=1781809397","url":"https:\/\/www.momoxbooks.com\/products\/george-orwell-mil-naw-wyth-deg-pedwar-1984-in-welsh-meddal-paperback-9781917237635","provider":"momoxbooks","version":"1.0","type":"link"}