{"product_id":"beriah-evans-gwynfe-bronwen-9781917237536","title":"Bronwen","description":"(The Welsh version of the novel Bronwen by Victorian novelist Beriah Gwynfe Evans) \n\u003cbr\u003e\n\"Twt, twt, fachgen!\" atebai ei dad, \"Ychydig wyt ti yn adnabod dynion. A wyt ti yn tybied y gallent fyth wrthod abwyd mor ddengar ag wyf fi wedi daflu iddynt? Annibyniaeth gweithredol i'w gwlad - y seren fore ddisglair honno am yr hon y mae eu beirdd yn canu, a'u tywysogion yn breuddwydio, a dim ond un dyn rhyngddynt a'r mwynhad.\"\n\u003cbr\u003e\nBeriah Gwynfe Evans (1848-1927) oedd un o Gymry llengar mwyaf gweithgar ei oes. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau yn portreadu digwyddiadau a chyfnodau o hanes ei wlad ei hun mewn ymgais bwriadol i efelychu yn y cyd-destun Cymreig yr hyn yr oedd Walter Scott wedi'i wneud gyda hanes yr Alban yn ei nofelau hanes ef.\n\u003cbr\u003e\nBronwen, 'Chwedl Hanesyddol am Owain Glynd¿r', oedd nofel gyntaf Evans. Enillodd y fersiwn Saesneg wobr yn Eisteddfod Caerdydd 1878, ac ymddangosodd y fersiwn Cymraeg sydd yn y gyfrol hon, sef addasiad yr awdur ei hun, gyda rhai ychwanegiadau, mewn cyfnodolyn yn 1880. Dyma nofel anturus, ramantaidd ac uchelgeisiol, a dyma'r tro cyntaf i unrhyw fersiwn ohoni ymddangos ar ffurf llyfr.","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":53714090819926,"sku":null,"price":0.0,"currency_code":"EUR","in_stock":false}],"url":"https:\/\/www.momoxbooks.com\/products\/beriah-evans-gwynfe-bronwen-9781917237536","provider":"momoxbooks","version":"1.0","type":"link"}